Adnewyddiad Diffibrilwyr
Mae dau diffibrilwr ychwanegol wedi cyrraedd heddiw yng Nghwmffrwd ac Idole. Mae hyn yn meddwl gyda’r un yn y Llew Coch, Llandyfaelog fod yna 3 nawr yn y Gymuned. Disgwylir pedwar arall yn ystod yr wythnosau nesaf ym Mancycapel, Croesyceiliog, Glanmorlais ac Upland Arms.
Diolch yn fawr i Gywion Bach ac OC Davies am ganiatáu eu lleoliad.
Mae’r cyfarfodydd hyfforddiant canlynol wedi eu trefnu. Gwahoddir chi i fynychu un o’r cyfarfodydd hyn.
Neuadd Llandyfaelog: Nos Fawrth, Ebrill 16eg am 7.30yh
Nos Fawrth, Ebrill, 30ain am 7.30yh
Y Llew Coch, Llandyfaelog: Nos Lun, Mai 13eg, am 6 yh
Neuadd Eglwys Santes Ann, Cwmffrwd: Nos Lun, Ebrill 15fed, am 7.30yh
Nos Lun, Ebrill 29ain am 7.30yh (cyflwyniad yn y Gymraeg)
Nos Lun, Mai 13eg, am 8yh