Y Clwb
Ydych chi’n
deall Cymraeg ond angen mwy o hyder a chyfleoedd i’w defnyddio?
Dewch draw i ymuno â ni i sgwrsio yn Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar gyda dysgwyr a siaradwyr rhugl.
Yn ystod misoedd y gaeaf, bydd tîm o wirfoddolwyr Cymraeg lleol yn trefnu cyfres o weithgareddau pob pythefnos ac yn gyfle gwych i chi gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd. Bydd Y Clwb am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran.
Byddwn yn ail-ddechrau cwrdd wyneb yn wyneb ar nos Fawrth 20fed Medi am 7o’r gloch yn Y Llew Coch, Llandyfaelog.
Croeso cynnes i bawb!
Lle? Y Llew Coch, Llandyfaelog
Faint o’r gloch? 7-8yh
Pryd? Ar Nos Fawrth
Dyddiadau: 20 Medi
4 a 18 Hydref
1, 15, a 29 Tachwedd
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Geraint Roberts – geraintroberts@btinternet.com neu Meinir James – meiwj12@gmail.com